Psalms 49

Mae mwy i fywyd na chyfoeth a meddiannau

I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.

1Gwrandwch ar hyn, chi'r bobloedd;
clywch, bawb drwy'r byd i gyd –
2pobl o bob cefndir
yn gyfoethog ac yn dlawd.
3Dw i'n mynd i rannu doethineb gyda chi,
a dweud pethau dwfn.
4Dw i'n mynd i ddysgu cân am ddoethineb,
a'i chanu i gyfeiliant y delyn.
5Pam ddylwn i ofni'r amserau anodd
pan mae drygioni'r rhai sy'n twyllo yn fy mygwth?
6Maen nhw'n dibynnu ar eu cyfoeth,
ac yn brolio'r holl bethau sydd ganddyn nhw.
7Ond all dyn ddim ei ryddhau ei hun,
na thalu i Dduw i'w ollwng yn rhydd!
8(Mae pris bywyd yn rhy uchel;
waeth iddo adael y mater am byth!)
9Ydy e'n mynd i allu byw am byth,
a pheidio gweld y bedd?
10Na, mae hyd yn oed pobl ddoeth yn marw!
Mae bywyd ffyliaid gwyllt yn dod i ben,
ac maen nhw'n gadael eu cyfoeth i eraill.
11Maen nhw'n aros yn eu beddau am byth;
byddan nhw yno ar hyd y cenedlaethau.
Mae pobl gyfoethog yn enwi tiroedd ar eu holau,
12ond dydyn nhw eu hunain ddim yn aros.
Maen nhw, fel yr anifeiliaid, yn marw.
13Dyna ydy tynged y rhai ffôl,
a diwedd pawb sy'n dilyn eu syniadau.

 Saib
14Maen nhw'n cael eu gyrru i Annwn
49:14 Annwn Hebraeg,  Sheol, sef “y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd”
fel defaid;
a marwolaeth yn eu bugeilio nhw.
Bydd y duwiol yn teyrnasu drostyn nhw pan ddaw'r wawr.
Bydd y bedd yn llyncu eu cyrff;
fyddan nhw ddim yn byw yn eu tai crand ddim mwy.
15Ond bydd Duw yn achub fy mywyd i o grafangau'r bedd;
bydd e'n dal gafael ynof fi!

 Saib
16Paid poeni pan mae dyn yn dod yn gyfoethog,
ac yn ennill mwy a mwy o eiddo.
17Pan fydd e'n marw fydd e'n cymryd dim gydag e!
Fydd ei gyfoeth ddim yn ei ddilyn i lawr i'r bedd!
18Gall longyfarch ei hun yn ystod ei fywyd
– “Mae pobl yn fy edmygu i am wneud mor dda” –
19Ond bydd yntau'n mynd at ei hynafiaid,
a fyddan nhw byth yn gweld golau ddydd eto.
20Dydy pobl gyfoethog ddim yn deall;
maen nhw, fel anifeiliaid, yn marw.
Copyright information for CYM